Book tickets

Yma O Glee’d – Comedi yn Gymraeg

Rydyn ni wedi bod yn dod â’r comedi byw gorau i Gaerdydd ers dros 17 mlynedd ac nawr, i gyd-fynd â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd, rydyn ni’n cyflwyno ein sioe Gymraeg gyntaf erioed.

Noel James

R’ôl troedio’r byrddau stand-up yn Lloegr yn y 90au dychwelodd Noel i Gymru. Dechreuodd sgrifennu deunydd trwy gyfrwng ei famiaith. Dyma’r canlyniad! Sioe ffraeth, ddeinamig a gwreiddiol yw hon sy’n cynnwys jôcs, miwsig, a sylwadaeth anochel ar gyflwr presennol Gwalia. Yn sgil ‘Brallanfa’ mae tirwedd gymdeithasol ein gwlad yn troi yn abswrd, ac felly yn ysbrydoli’n berffaith comedi swreal Noel. Bydd rhywbeth at ddant bawb yma, ac mae ‘na groeso i’r teulu cyfan, hen ac ifanc. Noel james yw Eirwyn Pontshan yr unfed ganrif ar hugain.

Dan Thomas

Mae Dan yn lais ac yn wyneb rheolaidd ar S4C, Radio Wales a Radio Cymru. Mae wedi perfformio ledled y byd gyda sêr fel Russell Kane, Ardal O’Hanlon a Lee Evans, ond ni deimlodd fel oedd wedi ei sefydlu’n go iawn yn y byd comedi tan 2017 pryd berfformwyd ym Maes B.

Steffan Evans

Mae Steffan Evans yn comediwr gyda cipolwg unigryw ar y byd. Mae’r hanner hambon yn dod o Eglwyswrw yn Sir Benfro. Roedd yn act cefnogol i Elis James ar ei daith genedlaethol yn 2017 a hefyd wnaeth e perfformio ar sioeau comedi S4C ‘Gwerthu Allan’ ac ‘O’r Diwedd’. Yn cyfranwr ar wefan digidol ‘BBC Sesh’

Oh dear, we couldn't match any shows to your search. Please try a different search.